Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Iau, 5 Gorffennaf 2018

Amser: 09.05 - 11.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4842


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Simon Thomas AC (Cadeirydd)

Neil Hamilton AC

Mike Hedges AC

Jane Hutt AC

David Rees AC

Mark Reckless AC

Tystion:

Alison Gerrard, Swyddfa Archwilio Cymru

Matthew Hockridge, Swyddfa Archwilio Cymru

Steve O'Donoghue, Swyddfa Archwilio Cymru

Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru

Huw Vaughan Thomas CBE, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru

Staff y Pwyllgor:

Bethan Davies (Clerc)

Georgina Owen (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Owen Holzinger (Ymchwilydd)

Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: Trafod yr adroddiad drafft

1.1        Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ar ôl gwneud rhai mân newidiadau.

1.2        Roedd Mark Reckless AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon.

</AI1>

<AI2>

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Nick Ramsay AC.

2.2 Croesawodd y Cadeirydd Mark Reckless AC a oedd yn dirprwyo dros Nick Ramsay AC.

</AI2>

<AI3>

3       Papur(au) i’w nodi

3.1 Nodwyd y papur.

</AI3>

<AI4>

4       Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru 2017-18 a Chynllun Blynyddol 2018-19: Sesiwn dystiolaeth

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Alison Gerrard, Aelod o’r Bwrdd, Swyddfa Archwilio Cymru; Steve O’Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru a Matthew Hockridge, Pennaeth Cynllunio ac Adrodd, Swyddfa Archwilio Cymru am Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru 2017-18 a Chynllun Blynyddol 2018-19.

</AI4>

<AI5>

5       Trafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Sesiwn dystiolaeth

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Alison Gerrard, Aelod o’r Bwrdd, Swyddfa Archwilio Cymru; Steve O’Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru; a Martin Peters, Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru am ystyried cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

</AI5>

<AI6>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI6>

<AI7>

7       Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru 2017-18 a Chynllun Blynyddol 2018-19: Trafod y dystiolaeth

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI7>

<AI8>

8       Trafod cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Trafod y dystiolaeth

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI8>

<AI9>

9       Trafod penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Memorandwm Swyddog Cyfrifyddu a nododd y telerau a’r amodau a’r trefniadau cydnabyddiaeth ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru nesaf.

</AI9>

<AI10>

10   Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.

10.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a hynny yn ystod toriad yr haf, ar y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft er mwyn llywio gwaith craffu’r Pwyllgor.

</AI10>

<AI11>

11   Trafod proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb

11.1 Nododd y Pwyllgor y papur ac ystyriodd y camau nesaf.

</AI11>

<AI12>

12   Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

12.1     Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.

12.2 Roedd Mark Reckless AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>